Beth yw Attend Anywhere?
Mae Attend Anywhere yn wasanaeth fideo-gynadledda. Mae sefydliadau megis darparwyr gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn ei ddefnyddio i gynnal apwyntiadau sesiynau ymgynghori ar-lein.
Weithiau, gelwir gwasanaeth fideo-gynadledda Attend Anywhere yn “Near Me”. Efallai bydd sefydliadau unigol sy'n defnyddio Attend Anywhere yn defnyddio enwau penodol i gyfeirio ato.
Yn y ddogfen hon, "y Platfform" yw'r enw a ddefnyddir i gyfeirio at wasanaeth fideo-gynadledda Attend Anywhere.
Pwy sy'n gweithredu gwasanaeth Attend Anywhere?
Gweithredir gwasanaeth Attend Anywhere gan Attend Anywhere Pty Limited.
Rydym yn gwmni cyfyngedig, wedi'i gofrestru yn Awstralia, sy'n rhan o grŵp Induction Healthcare. Rhif ein cwmni yw 081 211 707 a chyfeiriad ein swyddfa gofrestredig yw Level 44, 600 Bourke Street, Melbourne, VIC 3000, Awstralia.
Yn y dogfennau hyn, mae'r geiriau “ni” neu “ein” yn golygu Attend Anywhere Pty Limited bob tro.
Pa fathau o sefydliadau sy'n defnyddio Attend Anywhere?
Defnyddir gwasanaeth fideo-gynadledda Attend Anywhere gan ystod o sefydliadau, gan gynnwys:
- darparwyr gofal iechyd;
- darparwyr gofal cymdeithasol;
- cyrff cyhoeddus, megis awdurdodau lleol ac asiantaethau llywodraethau.
Yn y ddogfen hon, gelwir y cyrff hyn yn “Ddarparwyr”.
A allaf i gysylltu â rhywun os bydd gennyf gwestiwn am Attend Anywhere?
Os dymunwch gysylltu â ni, gallwch chi:
- e-bostio hello@inductionhealthcare.com;
- ffonio ein llinell gwasanaethu cwsmeriaid yn y DU ar 0333 939 8091.
TRWY DDEFNYDDIO'R PLATFFORM, RYDYCH YN DERBYN Y TELERAU HYN.
Mae'r Telerau hyn wedi'u pennu gan Attend Anywhere Pty Limited. Bydd yn ofynnol i chi gadw at y telerau os byddwch yn:
- cyrchu neu'n defnyddio'r Platfform;
- dynodi eich bod yn cydsynio mewn unrhyw ffordd arall.
Os nad ydych yn derbyn y Telerau hyn, ni chewch chi ddefnyddio'r Platfform.
Rydym yn argymell y dylech gadw neu argraffu copi o'r Telerau hyn i allu cyfeirio atynt yn y dyfodol.
Eich defnydd o'r Platfform
Ni allwch ddefnyddio Attend Anywhere oni byddwch wedi cael caniatâd a gwahoddiad i wneud hynny gan Ddarparwr.
Rydym yn caniatáu i chi ddefnyddio'r Platfform at ddibenion anfasnachol personol yn unig (ac i fynychu eich apwyntiadau ar-lein yn bennaf). Ni chaniateir defnyddio'r Platfform mewn unrhyw ffordd arall. Mae hyn yn cynnwys unrhyw fath o ddefnydd sy'n groes i'r cyfyngiadau a restrir isod.
Cyfyngiadau ar ddefnydd
Fel un o amodau eich defnydd o'r Platfform, rydych yn cytuno i:
- beidio â defnyddio'r Platfform at unrhyw ddiben sy'n anghyfreithlon dan unrhyw gyfraith berthnasol neu unrhyw ddiben a waherddir gan y Telerau hyn;
- peidio â defnyddio'r Platfform i dwyllo mewn unrhyw ffordd;
- peidio â defnyddio'r Platfform i ddosbarthu firysau neu faleiswedd nac unrhyw fath o feddalwedd niweidiol tebyg (diffinnir hynny yn fanylach isod);
- peidio â defnyddio'r Platfform at ddibenion hyrwyddo hysbysebion digroeso neu anfon sbam;
- peidio â defnyddio'r Platfform i efelychu cyfathrebu gennym ni neu gan wasanaeth neu endid arall er mwyn casglu gwybodaeth sy'n nodi pwy yw unigolion; manylion dilysu nac unrhyw wybodaeth arall ("gwe-rwydo");
- peidio â defnyddio'r Platfform mewn unrhyw ffordd sy'n tarfu ar ein gallu i weithredu ein Platfform neu ein busnes, na gwefan na busnes unrhyw endid arall;
- peidio â defnyddio'r Platfform mewn unrhyw ffordd sy'n niweidio plant a phobl ifanc dan oed;
- peidio â hyrwyddo unrhyw weithgarwch anghyfreithlon;
- peidio â defnyddio'r Platfform i gael mynediad heb awdurdod at gyfrifiaduron, data, systemau, cyfrifon neu rwydweithiau (neu eu defnyddio heb awdurdod);
- peidio â cheisio twyllo mewn perthynas â defnyddio cyfrineiriau neu ddulliau eraill a ddefnyddir i ddilysu defnyddwyr;
- cydymffurfio â darpariaethau yn ymwneud â'n hawliau deallusol a'r meddalwedd sy'n rhan o'n Platfform isod.
Sut byddwn yn trin a thrafod eich manylion personol
Ni oes angen i chi greu cyfrif i ddefnyddio'r Platfform.
Yn dibynnu ar y Darparwr, efallai y cewch wybod:
- y gallwch ddefnyddio'r Platfform yn ddienw;
- bod angen i chi ddarparu rhywfaint o fanylion personol er mwyn gallu defnyddio'r Platfform.
Os bydd Darparwr yn gofyn i chi am eich manylion personol, gallai'r rhain gynnwys:
- eich enw cyntaf;
- eich enw olaf;
- eich rhif ffôn;
- eich dyddiad geni;
- eich cyfeiriad e-bost.
Bydd datganiad preifatrwydd y Darparwr yn esbonio sut bydd y darparwr yn trin ac yn trafod y manylion personol hyn.
Ni fyddwn yn defnyddio, yn datgelu nac yn storio unrhyw fanylion personol yr ydych wedi'u darparu er mwyn gallu defnyddio'r Platfform. Bydd unrhyw fanylion personol y byddwch yn eu nodi yn cael eu dileu o'n system ymhen awr ar ôl diwedd eich sesiwn Attend Anywhere. Ni ddefnyddir y wybodaeth hon mewn unrhyw ffordd ac eithrio i gadarnhau pwy ydych chi yn y Man Aros neu'r Ystafell Fideo neu gan y Darparwr pan fyddant wrthi'n darparu eu gwasanaethau.
Gallem ni (neu gallai ein gwasanaethau lletya) gasglu gwybodaeth am y canlynol:
- amser eich galwad;
- hyd eich galwad;
- data technegol tebyg.
Ni ddefnyddir unrhyw wybodaeth a gesglir yn y modd hwn ac eithrio at ddibenion parhau i ddatblygu a gwella gwasanaeth Attend Anywhere. Ni fydd y wybodaeth y byddwn yn ei chasglu yn cynnwys unrhyw ddata personol yn ymwneud â chi ac eithrio eich cyfeiriad IP.
Ni fyddwn yn casglu unrhyw wybodaeth am destun eich apwyntiad Attend Anywhere.
Newidiadau i'r Telerau hyn
Gallem addasu'r Telerau hyn yn achlysurol. Bod tro y dymunwch ddefnyddio'r Platfform, darllenwch y Telerau sy'n i sicrhau y byddwch yn deall y telerau a fydd yn berthnasol ar y pryd. Trwy barhau i ddefnyddio'r a chyrchu'r Platfform ar ôl gweithredu newidiadau o'r fath, byddwch yn cytuno i gadw at ofynion fersiwn ddiweddaraf y Telerau.
Newidiadau i'n Platfform
Gallem ddiweddaru a newid ein Platfform yn achlysurol i adlewyrchu newidiadau i'r gwasanaethau.
Gallem atal ein Platfform dros dro neu ei atal yn llwyr.
Ni allwn warantu y bydd ein Platfform (nac unrhyw gynnwys sydd ynddo) ar gael bob amser ac ni allwn warantu na wnaiff unrhyw beth darfu arno. Gallem benderfynu atal argaeledd ein Platfform (neu unrhyw ran ohono), atal hynny dros dro neu gyfyngu arno:
- oherwydd rhesymau busnes a gweithredol;
- os na fyddwch yn cydymffurfio ag unrhyw ran o'r Telerau hyn;
- os na fyddwch yn cydymffurfio ag unrhyw bolisïau y cyfeirir atynt yn ein telerau;
- os na fyddwch yn cydymffurfio ag unrhyw gyfraith berthnasol.
Byddwn yn ceisio rhoi rhybudd rhesymol i chi cyn atal y Platfform neu ei atal dros dro.
Rydych hefyd yn gyfrifol am sicrhau bod pawb sy'n cyrchu eich Platfform gan ddefnyddio eich cysylltiad â'r rhyngrwyd:
- yn ymwybodol o'r Telerau hyn;
- yn ymwybodol o unrhyw delerau ac amodau perthnasol eraill;
- yn cydymffurfio â'r holl delerau ac amodau perthnasol.
Lluniwyd ein Platfform ar gyfer defnyddwyr o'r Deyrnas Unedig.
Bwriedir i'r Platfform gael ei ddefnyddio gan bobl sy'n preswylio yn y DU. Nid ydym yn disgwyl y bydd cynnwys ar gael ar neu trwy gyfrwng ein Platfform mewn lleoliadau eraill. Os byddwch yn cyrchu'r Platfform o leoliadau oddi allan i'r DU, byddwch yn gyfrifol am gydymffurfio ag unrhyw gyfreithiau lleol a allai fod yn berthnasol.
Sut gallwch ddefnyddio deunydd ar ein Platfform
Ni yw perchennog neu ddeilydd trwydded yr holl hawliau eiddo deallusol yn ein Platfform, yn cynnwys ei ryngwyneb, ei gynllun a'i swyddogaethau. Diogelir y gweithiau hynny gan ddeddfau hawlfraint, ac felly, cedwir pob hawl.
Nid oes unrhyw beth yn y Telerau hyn yn caniatáu unrhyw hawliau cyfreithiol yn y Platfform i chi ac eithrio'r rhai sy'n ofynnol i'ch galluogi i ddefnyddio'r Platfform. Rydych yn cytuno i beidio ag addasu, osgoi neu ddileu unrhyw hysbysiadau sydd yn y Platfform. Mae hynny'n cynnwys hysbysiadau ynghylch:
- eiddo deallusol;
- hawliau digidol;
- mathau eraill o dechnoleg diogelwch sydd wedi'u gwreiddio neu eu cynnwys yn y Platfform.
Rheolau ynghylch cysylltu â'n Platfform
Rydych yn cytuno na wnewch chi bostio unrhyw ddolen at ein Platfform ar unrhyw wefan sy'n eiddo i drydydd parti neu mewn unrhyw ffurf electronig. Rydych yn cydnabod bod y wybodaeth a'r manylion sydd yn y Platfform yn sensitif ac na ddylai'r cyhoedd eu cyrchu.
Ni chewch chi sefydlu dolen sy'n awgrymu (mewn unrhyw ffordd) unrhyw gysylltiad â ni neu unrhyw gymeradwyaeth neu gefnogaeth gennym ni, os nad oes unrhyw gysylltiadau, cymeradwyaeth neu gefnogaeth o'r fath yn bodoli.
Ein cyfrifoldeb am golled neu ddifrod a brofir gennych chi
Nid ydym yn eithrio nac yn cyfyngu mewn unrhyw ffordd ein hatebolrwydd i chi os byddai'n anghyfreithlon gwneud hynny. Mae hyn yn cynnwys atebolrwydd am y canlynol:
- marwolaeth neu anaf personol a achosir gan ein gweithredoedd esgeulus;
- marwolaeth neu anaf personol a achosir gan weithredoedd esgeulus ein cyflogeion, ein hasiantau neu ein hisgontractwyr;
- twyll;
- camliwio twyllodrus.
Gallwch ddefnyddio'r Platfform ar ddibenion eich defnydd preifat. Rydych yn cytuno i beidio â defnyddio’r Platfform at unrhyw ddibenion masnachol neu fusnes, ac nid ydym yn atebol i chi am unrhyw achos o golli elw, colli busnes, tarfu ar fusnes na cholli cyfle busnes.
Nid ydym yn gyfreithiol gyfrifol am unrhyw golledion nad oedd modd i chi nac i ninnau eu rhagweld pan wnaethoch chi gyrchu’r Platfform, neu golledion na chawsant eu hachosi gan unrhyw dramgwydd gennym ni.
Rydych yn cytuno mai chi yn unig sy’n gyfrifol am yr holl gostau a threuliau a allai ddod i'ch rhan mewn perthynas â’ch defnydd o’r Platfform.
Ni allwn warantu na fydd unrhyw fygiau neu firysau yn ein platfform:
Ni chewch chi gamddefnyddio ein Platfform trwy gyflwyno'r canlynol yn fwriadol:
- firysau;
- firysau Ceffyl Pren Troea;
- mwydod;
- bomiau rhesymeg;
- unrhyw ddeunydd arall sy'n faleisus neu a allai niweidio technoleg.
Ni chewch chi geisio cael mynediad heb awdurdod at:
- ein Platfform;
- y gweinydd y storir ein Platfform arno;
- unrhyw weinydd, cyfrifiadur neu gronfa ddata sydd wedi'u cysylltu â'n Platfform.
Ni chewch chi ymosod ar ein Platfform trwy gyfrwng ymosodiad atal gwasanaeth (DoS) neu ymosodiad atal gwasanaeth sy'n defnyddio nifer o gyfrifiaduron (DDoS). Pe baech yn tramgwyddo yn erbyn y ddarpariaeth hon, byddech yn cyflawni tramgwydd troseddol o dan Ddeddf Camddefnyddio Cyfrifiaduron 1990. Byddwn yn hysbysu'r awdurdodau perthnasol sy'n gorfodi'r gyfraith am unrhyw dramgwydd o'r fath a byddwn yn cydweithredu â'r awdurdodau hynny trwy ddweud wrthynt pwy ydych chi. Os bydd tramgwydd o'r fath yn digwydd, bydd eich hawl i ddefnyddio ein Platfform yn dod i ben yn syth.
Gofynion y system
Rydych chi'n gyfrifol am ffurfweddu eich teclyn a'ch cysylltiad â'r rhyngrwyd er mwyn gallu defnyddio ein Platfform. Dylech ddefnyddio eich meddalwedd gwrthfeirysau eich hun.
Er mwyn gallu defnyddio'r Platfform, rhaid i'ch teclyn, eich mynediad at y rhyngrwyd ac unrhyw offer cysylltiedig fodloni safonau penodol. Gelwir y rhain yn ‘ofynion y system’.
Os bodlonir gofynion y system, gallwch gyrchu'r Platfform gan ddefnyddio:
- ffôn clyfar;
- cyfrifiadur llechen;
- gliniadur;
- cyfrifiadur bwrdd gwaith.
Yn dibynnu ar y math o declyn y byddwch yn ei ddefnyddio, efallai bydd arnoch angen offer ychwanegol. Gallai hyn gynnwys:
- monitor;
- gwe-gamera;
- microffonau;
- clustffonau;
- seinyddion.
Os byddwch yn defnyddio offer ychwanegol, byddwch yn gyfrifol am sicrhau eu bod yn gydnaws â'ch teclyn ac yn gweithio'n iawn.
Gallwch gael rhagor o wybodaeth am ofynion y system yma: Welcome to Attend Anywhere’s online help (inductionhealthcare.com)
Digwyddiadau na allwn eu rheoli
Nid ydym yn atebol am unrhyw dramgwydd o ran y Telerau hyn a achosir gan unrhyw ddigwyddiad neu amgylchiad na allwn ei reoli o fewn rheswm. Mae hyn yn cynnwys y canlynol (ymhlith digwyddiadau eraill):
- streic, cload allan neu fathau eraill o anghydfodau diwydiannol;
- diffygion o ran y systemau neu fynediad i'r rhwydwaith;
- llifogydd, tân, ffrwydrad neu ddamwain.
Hawliau trydydd partïon
Ni oes gan neb ac eithrio'r sawl sydd wedi derbyn y Telerau hyn unrhyw hawl i'w gorfodi.
Deddfau pa wlad fyddai'n berthnasol yn achos unrhyw anghydfodau?
Cyfraith Lloegr sy'n llywodraethu'r Telerau hyn, eu pwnc a'u ffurfiant. Trwy gydsynio i dderbyn y Telerau, rydych yn cytuno mai dim ond llysoedd Cymru a Lloegr sydd ag awdurdodaeth.